Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2017
Amser:
08.30 - 08.45
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 15 Mawrth 2017 –
· Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (Dai Lloyd) (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60munud)
– symudwyd i 22 Mawrth
Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 –
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud) – symudwyd i 29 Mawrth
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60munud)
Dydd Mercher 29 Mawrth 2017 –
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar Ganser yr Ofari (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 14 Chwefror i gyfeirio Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 7 Gorffennaf 2017, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 13 Hydref 2017.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â Bil yr Economi Ddigidol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Llun 13 Mawrth er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Mawrth 2017.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn am gyfarfod ychwanegol fore Mawrth 28 Mawrth 2017 er mwyn i'r Pwyllgor allu craffu ar gyfrifon blynyddol 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.
Gwnaeth y Llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes fod disgwyl i Aelodau sydd wedi gwneud cais i siarad ar eitemau busnes gyrraedd cyn dechrau'r eitem honno os ydynt yn dymuno cael eu galw. Cyfrifoldeb yr Aelodau yw sicrhau eu bod yn ymwybodol os yw busnes yn rhedeg o flaen amser.